Os nad yw CThEM wedi gweithredu ar yr wybodaeth a roddwyd
Gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ganslo’r dreth sydd arnoch (‘ôl-ddyledion’) os ydych o’r farn ei fod wedi gwneud camgymeriad drwy beidio â gweithredu ar wybodaeth a oedd ganddo.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch wneud hyn drwy ofyn am ‘gonsesiwn all-statudol’ (‘ESC A19’) os oes arnoch y canlynol:
- Treth Incwm, er enghraifft, oherwydd roeddech ar y cod treth anghywir
- Treth Enillion Cyfalaf
- Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4
Cymhwyster
Gallwch wneud cais am ESC A19 os yw’r holl amodau canlynol yn berthnasol:
- nid yw CThEM wedi defnyddio gwybodaeth am dreth a roddwyd iddo, er enghraifft, am newid mewn incwm neu swydd
- rhoddodd CThEM wybod i chi am y dreth sydd arnoch mwy na 12 mis ar ôl diwedd y flwyddyn dreth pan ddaeth eich gwybodaeth i law
- rydych yn credu’n rhesymol fod eich materion treth wedi’u diweddaru
Gallai’r wybodaeth am dreth fod wedi dod o’r ffynonellau canlynol:
- chi
- eich cyflogwr
- yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Hunanasesiad
Fel arfer, ni allwch ganslo treth sydd arnoch drwy Hunanasesiad, oni bai bod amgylchiadau eithriadol wedi codi. Mae enghreifftiau’n cynnwys pan fo CThEM wedi gwneud y canlynol:
- rhoi gwybod i chi am ddwy flynedd neu fwy o TWE sydd arnoch
- peidio â gweithredu ar wybodaeth a roesoch iddo fwy nag unwaith
Sut i wneud cais
Ffoniwch neu ysgrifennwch at CThEM i wneud cais.
Dylech wneud hyn cyn i chi dalu unrhyw ran o’r dreth sydd arnoch. Os ydych eisoes wedi gwneud taliad, mae’n bosibl y gall CThEM ei ad-dalu.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM am y canlynol:
- pa ôl-ddyledion y mae’r anghydfod yn eu cylch, gan gynnwys y flwyddyn dreth
- yr wybodaeth y dylai CThEM fod wedi gweithredu arni a phryd y cafodd ei rhoi
- pam yr oeddech o’r farn bod eich treth wedi’i diweddaru
Mae’n bosibl y gallwch oedi cyn talu cosb hyd nes bod eich apêl wedi’i setlo.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad CThEM
Gallwch ofyn am adolygiad o’r penderfyniad os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad.