Neidio i'r cynnwys

Telyneg

Oddi ar Wicipedia
Mae "Telynegion" yn atgyfeirio i'r dudalen hon. Ar gyfer cyfrol Silyn ac W. J. Gruffydd o delynegion, gweler Telynegion (Silyn a Gruffydd).

Mae telyneg yn gerdd fer, gryno a didwyll, bersonol ei naws, sydd fel rheol yn canolbwyntio ar un testun uniongyrchol ac ymateb y bardd iddo. Cysylltir y delyneg â chanu serch a chanu natur, yn enwedig o safbwynt personol a/neu Rhamantaidd.

Ceir traddodiad hir o ganu telynegol yng Ngroeg yr Henfyd a Rhufain, ac mae telynegion Lladin yn elfen amlwg ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol.

Y Delyneg yn Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Credir mai'r defnydd cyntaf o'r gair telyneg yn Gymraeg oedd gan Daniel Silvan Evans (1818-1903) pan gyhoeddodd yntau ei Telynegion ar Destunau Amrywiol (1846),[1] ond roedd beirdd wedi bod yn cyfansoddi cerddi y gellid eu disgrifio fel telynegion ymhell cyn hynny. Ymhell cyn hynny fodd bynnag gellid fod wedi disgrifio cerddi cynharach gan feirdd fel Huw Morus (1622-1702) yn y 17g fel telynegion, ynghyd â sawl un o'r Hen Benillion. Benthycwyd ac addaswyd traddodiad y penillion hyn gan emynwyr y 18g, yn enwedig Williams Pantycelyn (1717-1791).

Daeth y delyneg yn gyfrwng poblogaidd iawn yn ystod y 19g gyda Alun (1797-1840) Ieuan Glan Geirionydd (1795-1855) a Gwenffrwd (1810-1834) ymysg y rhai fu'n allweddol yn gwneud y cyfrwng yn boblogaidd yn ystod hanner gyntaf y ganrif honno. Datblygwyd y traddodiad gan feirdd mwyaf poblogaidd y ganrif megis Talhaiarn (1810-1869) a Ceiriog (1832-1883), ac yn ddiweddarach gan John Morris-Jones (1864-1929) ac Eifion Wyn (1867-1926). Parhaodd beirdd yr 20g i gyfansoddi telynegion, er enghraifft W. J. Gruffydd, a gyhoeddodd y gyfrol dylanwadol Telynegion yn 1900 ar y cyd ag R. Silyn Roberts (1871-1930).

Mae cystadleuathau ar gyfer telyneg yn gyffredin mewn Eisteddfodau ac wedi bod yn rhan rheolaidd o'r Eisteddfod Genedlaethol am ddegawdau. Nid oes i delyneg ffurf a strwythur pendant o ran mydr ac odl, fel yn achos mesurau fel y soned, ac mae'n ddadleuol a ddylid ystyried y delyneg yn fesur mewn gwirionedd, ond yn hytrach yn ddull neu gywair barddonol. Fodd bynnig sonnir yn aml am y delyneg yn y cyd-destun Cymraeg fel petai'n fesur, er enghraifft yn y cystadleuthau hyn, sydd ochr-yn-ochr â chystadleuaethau am soned, englyn, cywydd, limrig ac ati.

Cyferbynnir y delyneg â cherddi yn y mesurau caeth, ac â phryddest, sy'n gerdd rhydd hirach.

  1. Meic Stephens (gol; 1997) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru t.699