Neidio i'r cynnwys

SpynjBob Pantsgwâr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o SpongeBob SquarePants)
SpynjBob Pantsgwâr
Enghraifft o:cyfres deledu animeiddiedig Edit this on Wikidata
CrëwrStephen Hillenburg Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Mai 1999 Edit this on Wikidata
Genrecomedi sefyllfa animeiddiedig, cyfres deledu comig, cyfres deledu ffantasi, adventure television series, science fiction television series Edit this on Wikidata
CymeriadauSpynjBob Pantsgwâr, Padrig Wlyb, Sulwyn Surbwch, Tina Tywod, Mr. Cranci, Gari'r Falwen, Mrs. Pwff-Ffwff, Al-gi, Karen, Perl Cranci, Mr. Môr-Forwyn a'r Boibachbysgod, Barti'r Môr-Leidr, Flying Dutchman, Y Brenin Neifion, Cenwyn y Cimwch, Harold SquarePants, Margaret SquarePants, Bubble Bass, Old Man Jenkins, Scooter Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSpongeBob SquarePants, season 1, SpongeBob SquarePants, season 2, SpongeBob SquarePants, season 3, SpongeBob SquarePants, season 4, SpongeBob SquarePants, season 5, SpongeBob SquarePants, season 6, SpongeBob SquarePants, season 7, SpongeBob SquarePants, season 8, SpongeBob SquarePants, season 9, SpongeBob SquarePants, season 10, SpongeBob SquarePants, season 11, SpongeBob SquarePants, season 12, SpongeBob SquarePants, season 13, SpongeBob SquarePants, season 14, SpongeBob SquarePants, season 15, SpongeBob SquarePants, season 16, SpongeBob SquarePants, season 17, SpongeBob SquarePants, season 18, SpongeBob SquarePants, season 19 Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithPant-y-Bicini Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrStephen Hillenburg, Paul Tibbitt, Vincent Waller Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuNickelodeon Animation Studio Edit this on Wikidata
CyfansoddwrThe Blue Hawaiians Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata[1]
Gwefanhttp://www.spongebob.com Edit this on Wikidata
SgriptiwrStephen Hillenburg, Paul Tibbitt, Mr. Lawrence, Dani Michaeli, Luke Brookshier, Tim Hill, Vincent Waller, C.H. Greenblatt, Derek Iversen, Kazimieras G. Prapuolenis, Kyle McCulloch Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/07vqnc edit this on wikidata
QuoraSpongebob-squarepants-tv-series edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfres deledu animeiddiedig Americanaidd am y cymeriad cartŵn o'r un enw SpynjBob Pantsgwâr (Saesneg: SpongeBob SquarePants). Mae'n un o "Nicktoons" y cwmni teledu Nickelodeon.

Erbyn heddiw, darlledir SpynjBob ledled y byd. Fe'i crëwyd gan y biolegydd morol ac animeiddiwr Stephen Hillenburg ac fe'i cynhyrchir gan ei gwmni cynhyrchu, United Plankton Pictures. Lleolir y gyfres yn y Cefnfor Tawel yn ninas Pant-y-Bicini (Saesneg: Bikini Bottom) a'i chyffiniau ar waelod lagŵn. Darlledwyd y bennod beilot yn yr Unol Daleithiau ar Nickelodeon ar 1 Mai 1999, gyda'r gyfres gyntaf swyddogol yn dilyn ar 17 Mehefin yn yr un flwyddyn. Cafwyd sawl cyfres erbyn hyn ynghyd â DVDau a chwe ffilm hir.

Troslais Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Darlledwyd y gyfres yn Gymraeg am y tro cyntaf ar S4C ar 7 Medi 2011, ac roedd ar gael drwy S4C Clic a BBC iPlayer.

Cast lleisiol

[golygu | golygu cod]
Enw Actor llais
SpynjBob Pantsgwâr Dewi Rhys Williams
Boibachbysgod
Sulwyn Surbwch Richard Elfyn
Gwilym Gwellnaphawb
Al-gi
Stanley Pantsgwâr
Cenwyn y Cimwch
Padrig Wlyb Rhys Parry Jones
Caradog Cranci
Mr. Môr-forwyn
Tina Tywod Siân Naiomi
Karen
Mrs. Pwff-Ffwff
Perl Cranci
Gari
Plant Iestyn Davies, Rhun Moses, Rhydian Davies

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://www.fernsehserien.de/spongebob-schwammkopf. dyddiad cyrchiad: 25 Mehefin 2020. dynodwr fernsehserien.de: spongebob-schwammkopf.
Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato