Skara Brae
Gwedd
| Math | safle archaeolegol, Neolithic settlement |
|---|---|
| Sefydlwyd |
|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Calon Ynysoedd Erch Neolithig |
| Sir | Ynysoedd Erch |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 0.5 ha, 1,620 ha |
| Cyfesurynnau | 59.048714°N 3.34175°W |
| Cyfnod daearegol | Oes Newydd y Cerrig |
![]() | |
| Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd, heneb gofrestredig |
| Manylion | |
Gweddillion pentref Neolithig ar Ynysoedd Erch yn yr Alban yw Skara Brae. Saif ar arfordir gorllewinol ynys Mainland.
Credir fod y pentref yn cael ei ddefnyddio yn y cyfnod 3100-2500 CC. Yn ddiweddarach, gorchuddiwyd adfeilion y tai gan dywod, ac ni chafwyd hyd iddynt eto hyd y 1850au. Bu cloddio archaeolegol yma dan Gordon Childe rhwng 1928 a 1930. Gan nad oedd fawr o goed ar Ynysoedd Erch, adeiladwyd popeth o gerrig, yn cynnwys y dodrefn.
Gyda Maes Howe, Meini Stenness a Cylch Brodgar, mae Skara Brae yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd a ddynodwyd gan UNESCO yn 1999 dan yr enw Calon Ynysoedd Erch Neolithig. Rheolir y safle gan Historic Scotland.
