Partido Popular
Gwedd
| Enghraifft o: | political party in Spain, plaid wleidyddol |
|---|---|
| Cyllideb | rhyddfrydiaeth, conservative liberalism, pro-Europeanism, rhyddfrydiaeth economaidd, Democratiaeth Gristnogol |
| Lliw/iau | glas yr awyr |
| Dechrau/Sefydlu | 20 Ionawr 1989 |
| Rhagflaenwyd gan | People's Alliance, Liberal Party, Democratic Popular Party |
| Pennaeth y sefydliad | llywydd y Partido Popular |
| Sylfaenydd | Manuel Fraga Iribarne |
| Aelod o'r canlynol | European People's Party, Centrist Democrat International, Undeb Democratiaeth Ryngwladol |
| Pencadlys | Madrid |
| Enw brodorol | Partido Popular |
| Gwladwriaeth | Sbaen |
| Gwefan | http://www.pp.es |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0248rj |

Plaid wleidyddol geidwadol yn Sbaen yw'r Partido Popular (PP, "Plaid y Bobl"). Mae'n un o'r ddwy blaid fawr yn Sbaen, ac mae ganddi fwy na 700,000 o aelodau, y nifer fwyaf o unrhyw blaid yn Sbaen. Ar hyn o bryd, hi yw'r brif wrthblaid. Ffurfiwyd y blaid yn 1989, pan unodd plaid yr Alianza Popular gyda dwy blaid arall, y Partido Demócrata Popular a'r Partido Liberal Español.
Enillodd etholiad cyffredinol 1996, a bu mewn grym hyd 2004, pan orchfygwyd llywodraeth José María Aznar gan y blaid adain-chwith PSOE dan José Luis Rodríguez Zapatero. Ymddiswyddodd Aznar fel arweinydd y blaid, ac olynwyd ef gan Mariano Rajoy, yr arweinydd presennol. Collodd etholiad 2008 i'r PSOE unwaith eto, ond parhaodd Rajoy fel arweinydd.
