Parasetamol
| Delwedd:N-Acetyl-p-aminophenol.svg, Paracetamol-skeletal.svg | |
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | acetamides, aromatic amide, phenols |
| Lliw/iau | gwyn |
| Màs | 151.063 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₈h₉no₂ |
| Enw WHO | Paracetamol |
| Clefydau i'w trin | Gorwres, poen, tueddiad at ddioddef o ffliw difrifol, nasopharyngitis |
| Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
| Rhan o | response to paracetamol |
| Dynodwyr | |
| SMILES | Cc(=o)nc1=cc=c(c=c1)o |
| Freebase | /M/0lbt3 |
| CAS | 103-90-2 |
| PubChem CID | 1983 |
| ChEBI | 46195 |
| InChI | Inchi=1s/c8h9no2/c1-6(10)9-7-2-4-8(11)5-3-7/h2-5,11h,1h3,(h,9,10) |
| ChEMBL | Chembl112 |
| ChemSpider | 1906 |
| UNII | 362o9itl9d |
| ATC | N02be01 |
| KEGG | D00217 |
| Llawlyfr Ligand | 5239 |
| Rhif EC | 203-157-5 |
| Cofrestr Beilstein | 2208089 |
| Drugbank | Db00316 |
| ECHA | 100.002.870 |
| HMDB | Hmdb0001859 |
| PDB | 2dpz, 4a9j, 4a9k, 1tyl, 1tym, 3py4, 4yji, 4gn6, 4cut, 2ocu |
| RxNorm CUI | 161 |
| UMLS CUI | C0000970 |
| NDF-RT | N0000145898 |
| IEDB Epitope | 117710 |
Mae parasetamol, a elwir hefyd yn acetaminophen neu APAP, yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin poen a thwymyn. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₈H₉NO₂. Fe'i defnyddir fel arfer ar gyfer rhyddhad rhag poen ysgafn i gymedrol. Mae'r dystiolaeth am ei werth i leddfu twymyn mewn plant yn ansicr.[1][2] Fe'i gwerthir yn aml mewn cyfuniad â chynhwysion eraill, megis mewn llawer o feddyginiaethau ar gyfer annwyd. Defnyddir parasetamol mewn cyfuniad â meddyginiaeth opioid hefyd, ar gyfer poen mwy difrifol fel poen canser a phoen ar ôl llawdriniaeth.[3] Fe'i defnyddir fel arfer trwy ei lyncu ond mae hefyd ar gael mewn ffurf i'w gweini trwy'r rectwm neu yn fewnwythiennol. Mae effeithiau'n para rhwng dwy a phedair awr.
Mae parasetamol yn ddiogel, fel arfer o ddefnyddio'r dosau a argymhellir.[4] Weithiau y bydd brechau croen difrifol yn digwydd fel sgil effaith cymryd parasetamol a gall dos rhy uchel arwain at fethiant yr afu. Ymddengys ei fod yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron.[5] Gall cleifion sy'n byw efo chlefyd yr afu ei ddefnyddio ond mewn dosau is.[6] Mae parasetamol wedi'i ddosbarthu fel poenliniarydd ysgafn.[7] Nid oes ganddo weithgaredd gwrthlidiol sylweddol. Nid yw'n hollol glir a sut mae'r cyffur yn gweithio.[8]
Darganfuwyd parasetamol ym 1877.[9] Dyma'r feddyginiaeth fwyaf cyffredin ar gyfer poen a thwymyn yn Ewrop a'r Unol Daleithiau.[10] . Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef restr o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[11]. Mae parasetamol ar gael fel meddyginiaeth generig ac o dan enwau masnachol megis Anadin, Tylenol a Panadol ymhlith eraill.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Meremikwu, M; Oyo-Ita, A (2002). "Paracetamol for treating fever in children". The Cochrane Database of Systematic Reviews (2): CD003676. doi:10.1002/14651858.CD003676. PMID 12076499.
- ↑ De Martino, Maurizio; Chiarugi, Alberto (2015). "Recent Advances in Pediatric Use of Oral Paracetamol in Fever and Pain Management". Pain and Therapy 4 (2): 149–168. https://link.springer.com/article/10.1007%2Fs40122-015-0040-z.
- ↑ Scottish Intercollegiate Guidelines Network (SIGN) (2008). "6.1 and 7.1.1". Guideline 106: Control of pain in adults with cancer (PDF). Scotland: National Health Service (NHS). ISBN 9781905813384.
- ↑ Russell, FM; Shann, F; Curtis, N; Mulholland, K (2003). "Evidence on the use of paracetamol in febrile children". Bulletin of the World Health Organization 81 (5): 367–72. PMC 2572451. PMID 12856055. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2572451.
- ↑ "Acetaminophen". The American Society of Health-System Pharmacists. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2016. Cyrchwyd 16 September 2016.
- ↑ Lewis, JH; Stine, JG (June 2013). "Review article: prescribing medications in patients with cirrhosis - a practical guide". Alimentary pharmacology & therapeutics 37 (12): 1132–56. doi:10.1111/apt.12324. PMID 23638982.
- ↑ Hochhauser, Daniel (2014). Cancer and its Management. John Wiley & Sons. t. 119. ISBN 9781118468715.
- ↑ McKay, Gerard A.; Walters, Matthew R. (2013). "Non-Opioid Analgesics". Lecture Notes Clinical Pharmacology and Therapeutics (arg. 9th). Hoboken: Wiley. ISBN 9781118344897.
- ↑ Mangus, Brent C.; Miller, Michael G. (2005). Pharmacology application in athletic training. Philadelphia, Pennsylvania: F.A. Davis. t. 39. ISBN 9780803620278.
- ↑ Aghababian, Richard V. (22 October 2010). Essentials of emergency medicine. Jones & Bartlett Publishers. t. 814. ISBN 978-1-4496-1846-9.Check date values in:
|date=(help) - ↑ "WHO Model List of Essential Medicines (19th List)" (PDF). World Health Organization. Ebrill 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 Rhagfyr 2016. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2016.
- ↑ Hamilton, Richard J. (2013). Tarascon pocket pharmacopoeia: 2013 classic shirt-pocket edition (arg. 27th). Burlington, Massachusetts: Jones & Bartlett Learning. t. 12. ISBN 9781449665869.
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |