Pab Boniffas IX
Gwedd
| Pab Boniffas IX | |
|---|---|
| Ganwyd | 1356 Napoli |
| Bu farw | 1 Hydref 1404 o strôc Rhufain |
| Galwedigaeth | offeiriad Catholig |
| Swydd | pab |
| Tad | NN Tomacelli |
Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a wasanaethodd fel Pab yn Rhufain o 3 Tachwedd 1389 hyd ei farwolaeth oedd Boniffas IX (ganed Pietro Tomicelli) (1356 - 1 Hydref 1404). Cafodd ei ethol yn Bab yn 1389 i olynu'r Pab Urbanus VI mewn gwrthwynebiad i'r Gwrth-bab Clement VII yn Avignon yn ystod Y Sgism Fawr (1378–1417). Nid oedd ganddo lawer o brofiad fel gweinyddwr eglwysig a bu ganddo enw am gamreoli despotig. Fe'i olynwyd gan Pab Innocentius VII.
Cyfarfu'r hanesydd Cymreig Adda o Frynbuga ag ef yn ystod ei arosiad yn Rhufain.
| Rhagflaenydd: Urbanus VI |
Pab 3 Tachwedd 1389 – 1 Hydref 1404 |
Olynydd: Innocentius VII |