Niger
| Gweriniaeth Niger République du Niger (Ffrangeg) | |
| Arwyddair | Brawdoliaeth, Gwaith, Datblygiad |
|---|---|
| Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
| Enwyd ar ôl | Afon Niger |
| Prifddinas | Niamey |
| Poblogaeth | 21,477,348 |
| Sefydlwyd | 18 Rhagfyr 1958 (Datganiad Annibyniaeth, oddi wrth Ffrainc} 3 Awst Diwrnod Annibyniaeth (1960) |
| Anthem | L'Honneur de la Patrie |
| Pennaeth llywodraeth | Ali Lamine Zeine |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, Africa/Niamey |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hawsa |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Niger |
| Arwynebedd | 1,267,000 km² |
| Yn ffinio gyda | Tsiad, Libia, Algeria, Mali, Bwrcina Ffaso, Benin, Nigeria, Y Cynghrair Arabaidd |
| Cyfesurynnau | 17°N 10°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Cabinet Niger |
| Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Niger |
| Pennaeth y wladwriaeth | Abdourahamane Tchiani |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Niger |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ali Lamine Zeine |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $14,915 miliwn, $13,970 miliwn |
| Arian | franc CFA Gorllein Affrica |
| Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
| Cyfartaledd plant | 7.599 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.4 |
Gwlad dirgaeedig yng ngorllewin Affrica yw Niger (ynganiad: niʒɛʁ, enw swyddogol: Jamhuriyar Nijar sef Gweriniaeth Niger). Mae'n ffinio â Nigeria a Benin yn y de, Mali a Bwrcina Ffaso yn y gorllewin, Algeria a Libia yn y gogledd a Tsiad yn y dwyrain. Rhan o'r Sahara yw gogledd y wlad. Mae Afon Niger yn llifo trwy dde-orllewin y wlad. Niamey yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Daw enw'r wlad o afon Afon Niger, y drydedd afon hiraf ar gyfandir Affrica. Er hynny, trwy Nigeria a Mali mae rhannau hiraf yr afon yn llifo, gyda rhyw 500 km yn unig yn llifo trwy weriniaeth Niger. Mae 80% o arwynebedd y wlad yn rhan o anialwch y Sahara, llawer ohono yn anialwch Ténéré. Mynydd Idoukal-n-Taghès (2022 m) yw'r uchaf yn y wlad, ym mynyddoedd Aïr. Llosgfynyddoedd ffurfiodd mynyddoedd Aïr, sy'n rhyw fath o is-gangen o Fynyddoedd Ahaggar dros y ffin yn rhan Algeria'r anialwch. Yn y de-orllewin mae dyffryn Afon Niger, lle mae tiroedd mwyaf ffrwythlon y wlad. Mae de-ddwyrain y wlad yn ffinio â Llyn Tsiad.
Hinsawdd drofannol, sych, sydd gan Niger. Anialwch poeth a sych a geir yn y gogledd (ac eithrio gwerddonau â'u coed datys), ond mae tymor glawog i'w gael yn de, gyda hyd at 750mm o law yn flynyddol. Safana yw llawer o'r tir nad yw'n anialwch, gyda choed kaoba, kapok a baobab yn amlwg.
Niamey yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Rhai o drefi eraill y wlad yw Zinder, Maradi, Agadez, Tahoua ac Arlit.
Dinasoedd a threfi
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â Niamey (oedd â phoblogaeth 978,029 yn 2012), rhai o ddinasoedd mwya'r wlad yw Maradi (267,249), Zinder (235,605), Tahoua (117,826) ac Agadez (110,497).
Ieithoedd
[golygu | golygu cod]
Hawsa yw iaith fwya'r wlad gydag oddeutu 55% o'r boblogaeth (rhyw 14,500,000 o bobl) yn ei siarad. Ers 2025, Hawsa yw iaith swyddogol y wlad - roedd iaith y coloneiddwyr o Ffrainc wedi parhau'n iaith swyddogol tan hynny.
Ceir sawl iaith arall yn y wlad: Songaieg (gan gynnwys Zarma), Tamasheceg, Ffwlareg, Canwrieg, Arabeg, Gwrmaneg, ieithoedd Tebw a mwy.[angen ffynhonnell]
Crefydd
[golygu | golygu cod]Yn ôl cyfrifiad 2012, mae 99.3% o boblogaeth Niger yn Fwslemiaid[1]. O'r rheini, mae'r mwyafrif yn dilyn y traddodiad Swnni.[2] Er mai dim ond 0.2%[1] o'r boblogaeth sy'n cyfri ei hunain yn eneidyddwyr, mae elfennau o grefyddau traddodiadol y wlad yn dal i'w gweld mewn rhai ardaloedd yn yr 21g.[3]
Hanes a gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Bu rhannau o'r hyn sydd bellach yn Niger yn Ymerodraeth Kanem-Bornu, Ymerodraeth Mali, Swltaniaeth Agadez, ac Ymerodraeth Songhai dros y canrifoedd. Daeth i ddwylo Ffrainc yn ystod yr Ymgiprys am Affrica, gan ddod yn rhan o Gorllewin Affrica Ffrengig ym 1922.
Enillodd Niger annibyniaeth yn 1960. Haman Diori oedd yr arlywydd o 1960 hyd coup d'état 1974.
Roedd cyfnod o ddemocratiaeth amlbleidiol rhwng 1991 ac 1996; cyn i'r fyddin gymryd drosodd eto rhwng 1996 ac 1999.
Etholwyd Tandja Mamadou yn arlywydd yn 1999. Yn 2009, fe geisiodd newid cyfansoddiad y wlad er mwyn aros yn arlywydd - ataliodd y fyddin ei gynlluniau a chymryd yr awenau nes ethol Mahamadou Issoufou dan drefn newydd yn 2011.
Roedd coup arall yn 2023, a fyddin dan arweiniad y cadfridog Abdourahamane Tchiani sy'n rheoli'r wlad ar hyn o bryd (2026).[angen ffynhonnell]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cymorth Cymru i Niger Archifwyd 2008-10-17 yn y Peiriant Wayback Hanes Cymraes sy'n gweithio gyda Médecins Sans Frontières i helpu ysbyty yn Niger
- 1 2 "Wayback Machine" (PDF). www.stat-niger.org. Cyrchwyd 2026-06-02.
- ↑ Department Of State. The Office of Electronic Information, Bureau of Public Affairs (2007-09-14). "Niger". 2001-2009.state.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-02.
- ↑ "Niger". United States Department of State (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-02.
