Neidio i'r cynnwys

Nablus

Oddi ar Wicipedia
Nablus
Mathdinas Edit this on Wikidata
ArNablus.ogg, LL-Q55633582 (ajp)-Khalil.rantissi-نابلس.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth177,638, 155,545, 146,493, 60,000 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHusam Shakhshir Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Nablus Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Arwynebedd29 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr550 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau32.220859°N 35.262892°E Edit this on Wikidata
Cod postP400 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHusam Shakhshir Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethTentative World Heritage Site Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Nablus neu, gellir sillafu fel Nablws yn yr orgraff Gymraeg (Arabeg: نابلس, Nablus næːblʊs; Hebraeg: שכם?, Šəḫem), Shechem), yn un o ddinasoedd fwyaf y Lan Orllewinol ym Mhalesteina, gyda phoblogaeth o 135,000 o drigolion (2006). Dyma brifddinas sir o'r un enw, sy'n cynnwys 56 o bentrefi ar gyfer poblogaeth gyfan o 336,380 o drigolion (yn ôl ystadegau 2006). Cafodd y ddinas ei meddiannu gan fyddin Israel yn ystod y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967. Ers 1995 daeth y ddinas o dan reolaeth llywodraeth hunanlywodraethol Awdurod Cenedlaethol Palastieina yn dilyn Cytundeb Oslo II.

Lleoliad

[golygu | golygu cod]
Rheolfa Huwwara gyda Palesteiniaid yn disgwyl teithio i'r de, 2006

Lleolir Nablws tua 60 cilomedr i'r gogledd o Jerwsalem rhwng Mynydd Ebal a'r Garizim. Mae'r boblogaeth yn Arabaidd. Yn hanesyddol roedd y ddinas yn adnabyddus am gynhyrchu o wlân, olew a sebonau. Hon oedd canolfan fasnachol bwysicaf Samaria.[1]

Yn 1995, yn dilyn yr Cytuneb Oslo, fe'i rhoddwyd y ddinas o dan awdurdodaeth Awdurdod Cenedlaethol Palesteina. Ers hynny, yn raddol mae wedi dod yn brifddinas economaidd Palesteina. Mae hefyd yn gartref i Brifysgol Genedlaethol An-Najah.

Panorama o ddinas Nablws
Panorama o ddinas Nablws

Y Shechem hynafol

[golygu | golygu cod]
Nablus yn 1898
Nablus in 1918

Yn yr Hen Destament ymddangosodd Duw i Abraham mewn lle o'r enw "Sichem" (Aramaeg: Sicar) (Genesis 12, 6-7). Nodir hefyd y galwodd Joshua ar i ddeuddeg llwyth Israel ymgasglu yno i gadarnhau'r Cyfamod rhwng Duw a'i bobl (GS 24). Yn y ddinas honno hefyd safodd ffynnon Jacob lle cyfarfu Iesu â'r wraig Samariaid (Jn 4:23). Ymddengys fod y Shechem yma rhai cilomedrau o'r ddinas Rufeinig, "Flavia Neapolis".

Y Flavia Neapolis Rhufeinig

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y ddinas yma gan y Rhufeiniaid yn 72OC ac fe'i galwyd yn Flavia Neapolis ("dinas newydd [yr Ymerawdwr] Flavio"). Ar ôl y goresgyniad Arabaidd yn 636OC, addaswyd yr enw i نابلس (Nāblws), yn rannol oherwydd nad yw'r lythyren 'p' yn yr iaith Arabeg. Galwyd y dref yn "Neples" gan y Croesgadwyr a bu'n un o brif ddinasoedd Teyrnas Jerwsalem. Yn 1202 cafodd ei dinistrio gan y Croesgadwyr eu hunain. Ailadeiladwyd yn ddiweddarach gan yr Arabiaid.

Yn ninas Nablus mae yna lawer o henebion, gan gynnwys naw mosg (pedair eglwys Fysantaidd wedi'u trawsnewid yn fosgiau a phum mosg a adeiladwyd ar ôl y goresgyniad Arabaidd), beddrod yn dyddio'n ôl i gyfnod Ayyubid ac eglwys o'r 17g. Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r adeiladau yn yr Hen Ddinas yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Otomanaidd. Mae 10 baddon Twrcaidd a 30 o ffatrïoedd sebon (ابانة), gyda dim ond cwpl yn goroesi. Mae 2,850 o adeiladau hanesyddol (tai a bythynnod), 18 o henebion Islamaidd a 17 stryd.

Mae gweddillion yr oes Rufeinig i'w gweld ar ymylon yr hen ddinas. Mae rhai o henebion yr hen ddinas yn dyddio'n ôl i'r oes Fysantaidd ac i'r Croesgadau. Mae'r rhwydwaith dŵr yfed o'r cyfnod Rhufeinig ac mae wedi'i leoli o dan rai ardaloedd yn yr hen ddinas. Mae rhan o'r henebion hyn wedi cael eu hadnewyddu a'u hagor i ymwelwyr.

Yn 2000, yn ystod yr Intiffada gwrthryfel Palesteinaidd yn erbyn Israel, dinistriodd fyddin Israel 149 o gerddi ac mae wedi difrodi adeiladau tua 2000.[2]

Atyniadau Nablws

[golygu | golygu cod]
Ffynnon Jacob, 1912

Mae hynafiaeth Nablws fel tref cyn hanes ac yna oes y Rhufeiniaid, gwladychu Arabaidd, Croesgadau, Ymerodraeth Fysantaidd, Ymerodraeth yr Otomaniaid a Palesteina dan reolaeth Mandad Prydain wedi'r 1920 yn rhoi hanes cyfoethog ac amrywiol iawn i'r ddinas.

  • Ffynnon Jacob
  • Bedd Joseff
  • Torre Manara (a adeiladwyd yn 1906)
  • Palas Abd al-Hadi (19g)
  • Carafanserai (15g)
  • Mosg Fawr Nablus (12g)
  • Mosg Hanbali (16g)
  • Mosg Al-Khadra (13g)
  • Mosg An-Nasr

Y Ddinas

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Poblogaeth
15964,300[3]
184920,000[4]
186015,000[5]
192215,947[6]
193117,181[7]
194523,250[8][9]
196145,768[10]
198793,000[11]
1997100,034[12]
2007126,132
2014146,493

Mae'r ddinas yn cynnwys y brifysgol genedlaethol "al-Najāh",[13] y brifysgol fwyaf ym Mhalesteina, sy'n gartref i swyddfa ranbarthol yr Unimed.[13] Ar hyn o bryd mae ganddo dri champws, gyda mwy na 16,500 o fyfyrwyr a 300 o athrawon. O gyfadrannau'r brifysgol, mae saith o natur ddynoliaethol a naw natur wyddonol.[14] Mae'n gartref i Lyfrgell Gyhoeddus Nablus. Mae hefyd yn gartref i farchnad stoc Palesteina a chanolfannau cwmnïau telathrebu Palesteinaidd.

Mae Nablus yn ganolfan amaethyddol ac economaidd bwysig ac mae'r ddinas yn enwog am ei sebon olew olewydd, compownd sy'n seiliedig ar sodiwm a dŵr pur, yn debyg iawn i sebon Aleppo. Mae hefyd yn enwog am olew olewydd a chrefftwaith. Mae'r ddinas hefyd yn cynhyrchu dodrefn a theils, mae'n ganolfan weithgaredd yn y sectorau tecstilau a lledr, yn ogystal â chanolfan ar gyfer gwerthu da byw byw, yn enwedig gwartheg.

O amgylch y ddinas mae yna nifer o wersylloedd ffoaduriaid Palestinaidd, fel Ayn Bayt al-Mā (Ffynhonnell y Water House), Balata, Askar Vecchio a Askar Nuovo, lle mae tua 34,000 o bobl yn byw.

Cyfnewidfa Stoc Palesteina

[golygu | golygu cod]

Yn 1996 sefydlwyd Cyfnewidfa Stoc Palesteina yn Nablus.[15] Yr enw Arabeg oedd "Suk al Meli al Falastini", (Cyfnewid Gwarantau Palesteinaidd) yn Saesneg Palestine Securities Exchange (PSE) , ac mae'n fenter breifat gan y Palesteiniad, Ahmad Aweidah. Cyfeirir at y mynegai stoc yn symbolaidd fel y Quds, yn yr iaith Arabeg "dinas sanctaidd" (hynny yw, Jeriwsalem). Yn 2012 daeth yn Farchnad Stoc llawn gyda 47 cwmni wedi eu rhestri a chyfalafiad ('Capitalisation') marchnad cyfunol o $2.9 biliwn.[16]

Gefeilldrefi

[golygu | golygu cod]

Mae gan Nablws sawl berthynas gefeilldref tu hwnt i Balesteina:

DinasGwlad
KhasavyurtBaner Rwsia Rwsia
ComoBaner Yr Eidal Yr Eidal
DundeeBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
FflorensBaner Yr Eidal Yr Eidal
LilleBaner Ffrainc Ffrainc
NapoliBaner Yr Eidal Yr Eidal
PoznańBaner Gwlad Pwyl Gwlad Pwyl
RabatBaner Moroco Moroco
StavangerBaner Norwy Norwy
ToscanaBaner Yr Eidal Yr Eidal
NürnbergBaner Yr Almaen Yr Almaen [17]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Voce "Nablus", nell'opera dal titolo l'Enciclopedia. UTET-DeAgostini. Mawrth 2003.
  2. ICOMOS
  3. Hütteroth and Abdulfattah, 1977, p.5.
  4. Doumani, Beshara. Counts in Ottoman Palestine: Nablus, circa 1850 Cambridge University Press.
  5. Sabbagh, Karl. (2008) Palestine: History of a Lost Nation Grove Press.
  6. Barron, 1923, Table IX, Sub-district of Nablus, p. 24
  7. Mills, 1932, p. 63
  8. Government of Palestine, Department of Statistics, 1945, p. 19
  9. Government of Palestine, Department of Statistics. Village Statistics, April, 1945. Quoted in Hadawi, 1970, p. 60 Archifwyd 2018-09-06 yn y Peiriant Wayback
  10. Government of Jordan, Department of Statistics, 1964, p. 13
  11. Israel Central Bureau of Statistics
  12. name="PCBSCensus">"Summary of Final Results: Population, Housing and Establishment Census-1997". Palestinian Central Bureau of Statistics (PCBS). 1997. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Tachwedd 2008. Cyrchwyd 24 Ebrill 2008.
  13. 1 2 /www.najah.edu
  14. "About An-Najah". An-Najah National University Official Website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ebrill 2008. Cyrchwyd 24 Ebrill 2008.
  15. http://www.pex.ps/PSEWebSite/English/Default.aspx
  16. https://www.reuters.com/article/palestinian-exchange-ipo/palestinian-stock-exchange-makes-market-debut-idUSL6E8F45E120120404
  17. Nürnberg International - Informationen zu den Auslandsbeziehungen der Stadt Nürnberg

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]