Ìle
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Islay)
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Bowmore |
| Poblogaeth | 3,228 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Mewnol Heledd |
| Sir | Argyll a Bute |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 620 km² |
| Uwch y môr | 491 metr |
| Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
| Cyfesurynnau | 55.77°N 6.15°W |
| Hyd | 40 cilometr |
![]() | |
Un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Ìle (Saesneg: Islay). Hi yw'r mwyaf deheuol o Ynysoedd Heledd. Mae'r boblogaeth tua 3,000, gyda tua 35% ohonynt yn siarad Gaeleg yr Alban.
Y pentref mwyaf yw Bowmore, gyda Port Ellen a Port Charlotte hefyd yn bwysig. Gellir cyrraedd yr ynys mewn awyren o Glasgow, neu ar y fferi o harbwr Kennacraig. Mae'r ynys yn nodedig am ei wisgi; ynhlith y rhai a gynhyrchir yma mae Ardbeg, Laphroaig, Lagavulin Single Malt, Bowmore single malt, Bruichladdich, Bunnahabhain a Caol Ila. Daw llawer o adarwyr yma, yn enwedig yn y gaeaf i weld y miloedd o wyddau sy'n gaeafu yma, yn enwedig yr Wydd wyran.
Pobl enwog o Ìle
[golygu | golygu cod]- George Robertson, cyn ysgrifennydd NATO.

