Neidio i'r cynnwys

Indra

Oddi ar Wicipedia
Indra
Enghraifft o:duw dŵr, duw taranau, duw rhyfel, duw Hindŵaidd, Rigvedic deities, Buddhist deity Edit this on Wikidata
Enw brodorolइन्द्र Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0ng8b edit this on wikidata
QuoraIndra edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Indra gyda Sachi yn marchogaeth Airavata

Duw grymus a gysylltir â Rhyfel a'r Tywydd yn y Veda ac sydd hefyd yn Frenin y duwiau ac Arglwydd y Nefoedd yn ei balas yn Svargaloka yn Hindŵaeth yw Indra (Sansgrit: इन्द्र neu इंद्र, Indra). Ceir y cyfeiriadau cynharaf ato yn y Rig Veda hynafol. Yno mae'n cael ei bortreadu fel cymeriad arwrol sy'n brwydro ar ran y duwiau ond sy'n hoff hefyd o garu. Ym mytholeg Hindŵaeth mae'n frenin ar y devas, ond lleihaodd ei addoliad a'i bwysigrwydd yn ddiweddarach yn dilyn cyfnod y testunau Purana gyda'r cynnydd ym mhwysigrwydd y Trimurti.

Ei chymar dwyfol yw'r dduwies Sachi. Fe'i portreadir yn aml yn marchogaeth yr eliffant Airavata.

Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.