Neidio i'r cynnwys

Helygain

Oddi ar Wicipedia
Helygain
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,788, 2,876, 2,879 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2325°N 3.1833°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000991 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ211714 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddClwyd
Etholaeth y DUBecky Gittins (Llafur)
Map

Pentref a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Helygain ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Halkyn),[1] ond hefyd clywir rhai o drigolion y pentref yn ei alw'n "Lygian". Fe'i lleolir tair milltir i'r de-orllewin o dref Y Fflint, rhwng Pentre Helygain i'r gorllewin a Llaneurgain i'r dwyrain, ar lôn yr A55. Ceir Swyddfa Post, eglwys, tafarn a llyfrgell yno. Saif ar lethrau gogleddol Mynydd Helygain, sydd gerllaw.

Mae Pentre Helygain yn un o "blwyfi hynafol" Sir y Fflint. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys trefi canoloesol Hendrefigillt, Llugan y Llan a Llugan y Wern. Cyfeirir at y pentref yn Llyfr Dydd y Farn dan yr enw Alchene.[2]

Ger y pentref ceir Castell Helygain, plasdy o'r 19g a godwyd gan y teulu Grosvenor, sy'n dirfeddianwyr mawr yn yr ardal. Codwyd eglwys y pentref gan y teulu hefyd.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Helygain (pob oed) (2,879)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Helygain) (529)
 
19%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Helygain) (1612)
 
56%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Helygain) (386)
 
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. British Place Names; adalwyd 15 Hydref 2022
  2. Halkyn yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.