Gwythïen
| Enghraifft o: | do, dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | Gwaedlestr, segment of venous tree organ, endid anatomegol arbennig |
| Y gwrthwyneb | rhydweli |
| Rhan o | Gwaedlestr |
| Cysylltir gyda | venule, calon |
| Yn cynnwys | venous valve |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0dzb2 |
| Thesawrws y BNCF | 6692 |


Yn system gylchredol y gwaed, gwythïen yw pibell sy'n cario gwaed i'r galon. Mae hyn yn groes i'r rhydwelïau, sy'n cario gwaed o'r galon. Ychydig iawn o ocsigen sydd yn y gwaed sy'n teithio drwyddynt o'r meinweoedd yn ôl i'r galon; mae eithriadau i hyn: mae gwythïen y bogail sy'n teithio drwy linyn y bogail yn enghraifft o wythïen sy'n llawn ocsigen.
Afiechydon
[golygu | golygu cod]Mae gwythiennau chwyddiedig (neu varicose veins) i'w gweld ar y coesau, fel arfer. Oherwydd y pwysedd mawr ar wythiennau'r coesau pan fo person yn sefyll, gallant chwyddo gan beri i'r falfau beidio â gweithio'n iawn. Mae'r gwaed, yn ei dro, yn casglu yn y rhannau hyn gan chwyddo'r gwythiennau'n fwy byth. Gall gwythiennau chwyddiedig, fod yn boenus iawn a gallant gosi'n aruthrol. Y dull traddodiadol oedd eu tynnu drwy lawdriniaeth meddygol ond bellach ceir belydrau radio neu driniaeth laser.