Etch A Sketch
Gwedd
| Enghraifft o: | tegan |
|---|---|
| Crëwr | André Cassagnes |
| Deunydd | gwydr, plastig, aluminium powder, metel |
| Dechrau/Sefydlu | 1959 |
| Gwneuthurwr | Ohio Art Company, Spin Master |
| Gwefan | https://spinmaster.com/en-US/brands/etch-a-sketch |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/025rrfy |
Tegan yw'r Etch A Sketch (Ffrangeg: écran magique neu ardoise magique) a ddyfeisiwyd gan André Cassagnes. Mae'n galluogi'r defnyddiwr i dynnu lluniau ar sgrin.
Ceir haen o bowdr alwminiwm mân o dan y sgrin, a thrwy troi'r nobiau gellir symud nodwydd o dan y sgrin gan grafu llinellau trwy'r powdr. I ddileu'r llun, mae'r defnyddiwr yn ysgwyd y tegan i ailorchuddio'r sgrin â'r alwminiwm.[1]
Cafodd ei werthu'n gyntaf ym 1960 ac erbyn marwolaeth ei ddyfeisiwr yn 2013 roedd dros 100 miliwn o Etch A Sketches wedi eu gwerthu ar draws y byd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 (Saesneg) Fox, Margalit (3 Chwefror 2013). André Cassagnes, Etch A Sketch Inventor, Is Dead at 86. The New York Times. Adalwyd ar 6 Chwefror 2013.