Eglwys y Geni
| Math | basilica minor, basilica, Safle Treftadaeth y Byd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Nadolig, crud yr Iesu |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Man Geni'r Iesu: Eglwys y Geni a Llwybr y Pererinion, Bethlehem |
| Sir | Bethlehem |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 2.98 ha, 23.45 ha |
| Cyfesurynnau | 31.70431°N 35.20758°E |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Cristnogaeth Fore, pensaernïaeth Romanésg |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Sefydlwydwyd gan | Cystennin I, Helena o Gaergystennin |
| Cysegrwyd i | Geni'r Iesu |
| Manylion | |
| Deunydd | craig |
| Esgobaeth | Eglwys Uniongred Roegaidd Jeriwsalem, Patriarchaeth Ladin Jeriwsalem, Patriarchaeth Armenaidd Jeriwsalem |
Basilica ym Methlehem yn y Lan Orllewinol yw Eglwys y Geni, neu weithiau Basilica'r Geni. Ceir groto oddi fewn i'r eglwys sydd ag arwyddocâd crefyddol amlwg i Gristnogion o wahanol enwadau fel man geni honedig Iesu Grist. Y groto yw'r safle hynaf a ddefnyddir fel addoldy Cristnogol, a'r basilica yw'r brif eglwys hynaf yn y Wlad Sanctaidd.
Comisiynwyd yr eglwys yn wreiddiol gan Cystennin I, ymerawdwr Rhufain, ychydig amser ar ôl ymweliad ei fam Helena â Jeriwsalem a Bethlehem yn 325–326, ar y safle a ystyrid yn draddodiadol fel man geni yr Iesu.[1] Mae'n debyg bod y basilica gwreiddiol hwnnw wedi'i adeiladu rhwng 330 a 333, ac fe'i cysegrwyd ar 31 Mai 339.[1] Fe'i dinistriwyd gan dân yn ystod gwrthryfeloedd y Samariaid yn y 6g, o bosibl yn 529, ac adeiladwyd basilica newydd nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach gan yr Ymerawdwr Bysantaidd Iwstinian I (a deyrnasodd o 527 i 565). Ychwanegodd Iwstinian gyntedd a disodli'r gysegr wythochrog gyda thrawslun croesffurf wedi'i orchuddio â thri aps, ond i raddau helaeth roedd yn cadw cymeriad gwreiddiol yr adeilad, gydag atriwm a basilica yn cynnwys corff gyda phedwar ystlys.[1][2]
Mae Eglwys y Geni, er ei bod yn aros yn ddigyfnewid (fwy neu lai) ers ei ailadeiladu yn oes Iwstinian, wedi gweld nifer o atgyweiriadau ac ychwanegiadau, yn enwedig o gyfnod y Croesgadwyr, megis dau glochdy, brithwaith wal a phaentiadau (wedi'u cadw'n rhannol). Dros y canrifoedd, mae'r adeiladau o'i amgylch wedi'i ehangu, a heddiw mae'n gorchuddio oddeutu 12,000 metr sgwâr, yn cynnwys tair mynachlog wahanol: un Eglwys Uniongred Roegaidd, un Apostolaidd Armenaidd, ac un Gatholig Rhufeinig.[3] Mae'r ddau gyntaf o'r rhain yn cynnwys tyrau cloch wedi'u hadeiladu yn ytod yr oes fodern.[4]
Cafodd y seren arian, sy'n nodi'r fan lle cafodd Crist ei eni, gydag arysgriiad Lladin, ei dwyn yn Hydref 1847 gan fynachod Groegaidd a oedd am gael gwared ar yr eitem Gatholig hon.[5] Mae rhai yn honni bod hyn yn ffactor a gyfrannodd at Ryfel y Crimea yn erbyn Ymerodraeth Rwsia;[6] mae eraill yn honni bod y rhyfel wedi tyfu allan o'r sefyllfa Ewropeaidd ehangach.[7]
Er 2012, mae Eglwys y Geni yn Safle Treftadaeth y Byd a hwn oedd y cyntaf i gael ei restru gan UNESCO o dan wlad 'Palesteina'.[8][9]
Mae cytundebh 250 oed ymhlith cymunedau crefyddol yr ardal, o'r enw y Status Quo, yn berthnasol i'r safle.[10][11]
Sylfaen yn yr ysgrythur
[golygu | golygu cod]O'r pedair efengyl ganonaidd, dim ond Mathew a Luc sy'n cynnig naratifau ynghylch genedigaeth yr Iesu. O'r ddau hyn, dim ond Luc sy'n cynnig manylion genedigaeth Iesu ym Methlehem. Mae Luc yn sôn am y preseb, ond nid yr ogof: "a rhoddodd [Mair] enedigaeth i'w mab cyntaf-anedig. Lapiodd ef mewn clytiau a'i roi mewn preseb, oherwydd nad oedd gwesty ar gael ar eu cyfer." (Luc 2:7.)
Hanes
[golygu | golygu cod]Safle sanctaidd cyn Cystennin (tua 4 CC – OC 326)
[golygu | golygu cod]Yn 135, trawsnewidiodd yr Ymerawdwr Hadrian y safle uwchben y groto yn addoldy i'r Duw Groegaidd Adonis, cariad marwol Aphrodite, duwies harddwch ac awydd Gwlad Groeg.[12] Nododd Sierôm yn 420 fod y groto wedi'i gysegru i addoli Adonis, a bod perllan gysegredig wedi'i phlannu yno er mwyn dileu'r cof am yr Iesu o'r byd yn llwyr.[12] Mae rhai ysgolheigion modern yn anghytuno â'r ddadl hon ac yn mynnu mai cwlt Adonis-Tammuz a greodd y gysegrfa ac mai'r Cristnogion a'i cymerodd drosodd, gan ddisodli addoliad Iesu.[13] Fodd bynnag, mae'r ffaith bod y safle'n gysylltiedig â genedigaeth yr Iesu ers yr ail ganrif OC o leiaf, wedi'i ardystio gan y diwinydd Cristnogol Cynnar a'r athronydd Groegaidd Origen o Alecsandria (185 – tua 254), a ysgrifennodd tua OC 248:
Ym Methlehem, tynnir sylw at yr ogof lle cafodd Ef ei eni, a'r preseb yn yr ogof lle cafodd Ei lapio mewn dillad cysgodi. Ac mae'r si yn y lleoedd hynny, ac ymhlith tramorwyr y Ffydd, fod Iesu yn wir wedi Ei eni yn yr ogof hon sy'n cael ei addoli a'i barchu gan y Cristnogion.[14]
Basilica Cystennin (326 – 529 neu 556)
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y basilica cyntaf ar y safle hwn gan yr Ymerawdwr Cystennin I, ar safle a nodwyd gan ei fam, Helena,[15] a Makarios, esgob Jeriwsalem.[16] Dechreuwyd ar y gwaith adeiladu yn 326[17] dan oruchwyliaeth Makarios, a ddilynodd orchmynion Cystennin, ac a gysegrwyd ar 31 Mai 339 [18] – sut bynnag, roedd Pererin Bordeaux wedi ymweld ag ef eisoes yn 333,[19][20] pan roedd eisoes yn cael ei ddefnyddio.[19]
Adeiladwyd yr eglwys gynnar hon fel rhan o brosiect mwy yn dilyn Cyngor Cyntaf Nicaea yn ystod teyrnasiad Cystennin, gyda'r nod o adeiladu eglwysi ar y safleoedd y tybiwyd ar y pryd eu bod wedi bod yn dyst i'r digwyddiadau hanfodol ym mywyd yr Iesu.[21] Roedd dyluniad y basilica yn canolbwyntio ar dair prif adran bensaernïol:[22]
- Yn y pen dwyreiniol, aps mewn siâp pentagon wedi torri, yn hytrach na'r octagon llawn a gynigiwyd unwaith, yn amgylchynu llwyfan uchel gydag agoriad yn ei lawr tua 4 metr o ddimedr, a oedd yn caniatáu gweld safle'r Geni oddi tano'n uniongyrchol. Roedd llwybr cerdded gydag ystafelloedd ochr yn amgylchynu'r aps hwn.[23]
- Basilica pum-ystlys yn parhau â'r aps dwyreiniol, un bae yn fyrrach nac adluniad Iwstinian sy'n dal i sefyll.[22]
- Atriwm gyda phortico.[22]
Llosgwyd a dinistriwyd y strwythur yn un o wrthryfeloedd y Samariad yn naill ai 529 neu 556, ac yn yr ail ymddengys bod Iddewon wedi ymuno â'r Samariaid.[24][25][26]
Basilica Iwstinian (6g)
[golygu | golygu cod]Ailadeiladwyd y basilica yn ei ffurf bresennol yn y 6g gan yr Ymerawdwr Bysantaidd Iwstinian I (527–565), ar ôl cael ei ddinistrio yn naill ai 529 neu 556.[5]
Goresgynnodd y Sassaniaid (y Persiaid) o dan Khosrau II gwlad Palesteina a goresgyn Jeriwsalem gerllaw yn 614, ond ni wnaethant ddinistrio'r adeiladau hyn. Yn ôl y chwedl, symudwyd eu cadlywydd Shahrbaraz gan y darlun uwchben mynedfa eglwys y Tri Gŵr Doeth yn gwisgo dilledyn offeiriaid Zoroastriaidd Persia, felly gorchmynnodd fod yr adeilad yn cael ei arbed.[27][28]
Cyfnod y Croesgadwr hyd at y Mamlwciad (12g – dechrau'r 16g)
[golygu | golygu cod]
Defnyddiwyd Eglwys y Geni fel y brif eglwys goroni ar gyfer brenhinoedd y Croesgadau, o ail reolwr Teyrnas Jeriwsalem yn 1100 hyd at 1131. Adferwyd ac addurnwyd yr eglwys yn helaeth gan y Croesgadwyr, ac felly hefyd y basilica a'r tiroedd,[29] proses a barhaodd tan 1169.[30]
Credir i'r Twrciaid Khwarezmian ddistrywio Eglwys y Geni yn Ebrill 1244, gan adael y to mewn cyflwr gwael.[31] Ymrwymodd Dugiaeth Burgundy adnoddau i adfer y to yn Awst 1448,[32] a chyfrannodd sawl rhanbarth gyflenwadau i atgyweirio to’r Eglwys ym 1480: Lloegr a gyflenwodd y plwm, Dugiaeth Bwrgwyn a gyflenwodd y pren, a Gweriniaeth Fenis ddarparodd y llafur.[33]
Cyfnod Otomanaidd, y tair canrif gyntaf (16g – 18g)
[golygu | golygu cod]
Ar ddiwedd y 18g gwelodd Abbé Giovanni Mariti fod yr haenau denau o farmor wedi cael eu tynnu o waliau'r eglwys, a rhoddodd y bai ar swltan yr Aifft a nododd bod y darnau haearn a oedd wedi dal y slabiau marmor yn y waliau yn dal i fod yn weladwy.[34]
19g
[golygu | golygu cod]Gwnaeth daeargrynfeydd ddifrod sylweddol i Eglwys y Geni rhwng 1834 a 1837. Difrodwyd clochdy'r eglwys gan ddaeargryn Jeriwsalem 1834 a dodrefn yr ogof y mae'r eglwys wedi'i hadeiladu arni, a rhannau eraill o'i strwythur. Achoswyd mân ddifrod pellach ym 1836 a daeargryn Galilea ym 1837.[35] Fel rhan o'r atgyweiriadau a gyflawnwyd gan Eglwys Uniongred Gwlad Groeg, adeiladwyd wal rhwng corff yr eglwys a'r ystlysau, a ddefnyddiwyd ar y pryd fel marchnad, a rhan ddwyreiniol yr eglwys a oedd yn cynnwys y côr, a oedd yn caniatáu addoli i barhau yno.[5]

Erbyn 1846, roedd Eglwys y Geni a'r safle o'i chwmpas yn dadfeilio ac yn agored i ysbeilio. Ysbeiliwyd llawer o'r lloriau marmor mewnol yn gynnar yn hanner y 19g a throsglwyddwyd llawer ohono i'w ddefnyddio mewn adeiladau eraill o amgylch yr ardal, gan gynnwys Bryn y Deml yn Jeriwsalem. Cafodd y seren arian grefyddol arwyddocaol sy'n nodi union fan geni Iesu ei dwyn yn Hydref 1847 o Groto'r Geni.[5] Roedd yr eglwys o dan reolaeth yr Ymerodraeth Otomanaidd, ond tua Nadolig 1852, gorfododd Napoleon III yr Otomaniaid i gydnabod Ffrainc fel yr "awdurdod sofran" dros safleoedd sanctaidd Cristnogol yn y Wlad Sanctaidd.
Rhoddodd Sultan Twrci seren arian arall yn y Groto, ynghyd ag arysgrif Ladin, ond roedd Ymerodraeth Rwsia'n anghytuno â'r newid mewn awdurdod. Fe ddyfynon nhw Gytundeb Küçük Kaynarca a danfonwyd byddinoedd i ardal Afon Donaw. O ganlyniad, cyhoeddodd yr Otomaniaid eu bod yn gwrthdroi eu penderfyniad cynharach, gan ymwrthod â chytundeb Ffrainc, ac adfer y Groegiaid i'r awdurdod sofran dros eglwysi'r Wlad Sanctaidd am y tro, a thrwy hynny gynyddu tensiynau lleol. Roedd hyn i gyd yn dyfnhau'r gwrthdaro rhwng ymerodraethau Rwsia a'r Otomaniaid dros reoli yr holl safleoedd sanctaidd.
20g hyd heddiw
[golygu | golygu cod]
Ym 1918 dymchwelodd llywodraethwr Prydain, y Cyrnol Ronald Storrs, y wal a godwyd gan Eglwys Uniongred Groeg rhwng corff a chôr yr eglwys.[5]
Ehangwyd y dramwyfa sy'n cysylltu Ogof Sant Sierôm ac Ogof y Geni ym mis Chwefror 1964, gan ganiatáu mynediad haws i ymwelwyr. Roedd y dyn busnes Americanaidd Stanley Slotkin yn ymweld ar y pryd a phrynodd swm o'r rwbel calchfaen, mwy na miliwn o ddarnau afreolaidd tua 5 milimetr ar draws. Fe'u gwerthodd i'r cyhoedd wedi'u gorchuddio â chroesau plastig ym 1995 a gwnaeth ei ffortiwn.[36]
Safle Treftadaeth y Byd
[golygu | golygu cod]Yn 2012, cyfadeilad yr eglwys oedd y safle cyntaf ym Mhalesteina i gael ei restru fel Safle Treftadaeth y Byd gan Bwyllgor Treftadaeth y Byd, yn ei 36ain sesiwn ar 29 Mehefin.[37] Fe'i cymeradwywyd trwy bleidlais gudd o 13–6 yn y pwyllgor 21 aelod, yn ôl llefarydd ar ran UNESCO, Sue Williams,[38] ac yn dilyn ymgeisyddiaeth frys a oedd yn osgoi'r broses o aros am 18 mis ar gyfer y mwyafrif o safleoedd, er gwaethaf gwrthwynebiad yr Unol Daleithiau ac Israel.
Cymeradwywyd y safle o dan feini prawf pedwar a chwech.[39] Fe'i gosodwyd ar y Rhestr o Dreftadaeth y Byd sydd mewn Perygl rhwng 2012 a 2019, gan ei fod wedi'i ddifrodi gan ddŵr.[40][41]
Gosodwyd y basilica ar Restr Gwylio 2008 o'r 100 Safle Mwyaf Mewn Perygl gan Gronfa Henebion y Byd.
Yn 2010, cyhoeddodd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina fod rhaglen adfer gwerth miliynau o ddoleri ar fin digwydd. Er eu bont yn Fwslimaidd, mae Palesteiniaid yn ystyried bod yr eglwys yn drysor cenedlaethol ac yn un o'u safleoedd twristiaeth yr ymwelir â hi fwyaf.[42] Mae'r Arlywydd Mahmoud Abbas wedi chwarae rhan weithredol yn y prosiect, sy'n cael ei arwain gan Ziad al-Bandak. Ariennir y prosiect yn rhannol gan Balesteiniaid a'i gynnal gan dîm o arbenigwyr Palesteina a rhyngwladol.[42]
Datgelodd gweithwyr adfer o'r Eidal seithfed angel mosäig sydd wedi goroesi, yng Ngorffennaf 2016, a guddiwyd cyn hynny o dan blastr.[43] Yn ôl yr adferwr Eidalaidd Marcello Piacenti, mae'r brithwaith "wedi'i wneud o ddail tennau, tennau o aur wedi'i gosod rhwng dau blat gwydr" ac "mae wyneb, breichiau a choesau'r angel wedi eu llunio a darnau bach o gerrig." [44]
Pensaernïaeth a chynllun y safle
[golygu | golygu cod]
Canolbwynt cyfadeilad y Geni yw Groto'r Geni, ogof sy'n ymgorffori'r safle lle dywedir i'r Iesu gael ei eni.
Mae craidd yr adeiladau sy'n gysylltiedig â'r Groto yn cynnwys Eglwys y Geni ei hun, ac Eglwys Gatholig gyfagos Santes Catrin i'r gogledd ohoni.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Noswyl Nadolig 2006 yn Sgwâr y Crud
- Drws Gostyngeiddrwydd, prif fynedfa'r eglwys
- Ailddarganfod llawr mosäig Cystennin o'r 4g ym 1934
- Y tu mewn i Eglwys y Geni tua 1936
- Eicon o'r Forwyn a'r Plentyn ("Mair Bethlehem") ger y grisiau i Groto'r Geni
- Rhan uchaf Allor y Geni
- Allor y Geni oddi tani mae'r seren yn nodi'r fan lle mae traddodiad yn dweud bod yr Iesu wedi'i eni
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 Madden, Andrew (2012). "A Revised Date for the Mosaic Pavements of the Church of the Nativity, Bethlehem". Ancient West & East 11: 147–190. doi:10.2143/AWE.11.0.2175882. https://www.academia.edu/3738229.
- ↑ Cohen, Raymond (2011). "4". In Melanie Hall (gol.). Conflict and Neglect: Between Ruin and Preservation at the Church of the Nativity. Routledge. tt. 91–108.
- ↑ Shomali, Qustandi. "Church of the Nativity: History & Structure". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-11. Cyrchwyd 8 Ebrill 2018.
- ↑ Custodia terrae sanctae, Bethlehem Sanctuary: Crusader bell towers Archifwyd 31 Mai 2015 yn y Peiriant Wayback
- 1 2 3 4 5 Cohen, Raymond (2011). "4". In Melanie Hall (gol.). Conflict and Neglect: Between Ruin and Preservation at the Church of the Nativity. Routledge. tt. 91–108.Cohen, Raymond (2011). "4". In Melanie Hall (ed.). Conflict and Neglect: Between Ruin and Preservation at the Church of the Nativity. Towards world heritage: international origins of the preservation movement 1870–1930. Routledge. tt.91–108.
- ↑ LaMar C. Berrett (1996). Discovering the World of the Bible. Cedar Fort. t. 188.
- ↑ Clive Ponting (2011). The Crimean War: The Truth Behind the Myth. Random House. tt. 2–3].
- ↑ Lazaroff, Tovah (29 Mehefin 2012). "UNESCO: Nativity Church heritage site in 'Palestine'". The Jerusalem Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mehefin 2012. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
- ↑ "Birthplace of Jesus: Church of the Nativity and the Pilgrimage Route, Bethlehem". UNESCO. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2019.
- ↑ UN Conciliation Commission (1949). United Nations Conciliation Commission for Palestine Working Paper on the Holy Places.
- ↑ Cust, L. G. A. (1929). The Status Quo in the Holy Places. H.M.S.O. for the High Commissioner of the Government of Palestine.
- 1 2 Ricciotti, Giuseppe (1948). Vita di Gesù Cristo. Tipografia Poliglotta Vaticana. t. 276 n.
- ↑ Craveri, Marcello (1967). The Life of Jesus. Grove Press. tt. 35–37.
- ↑ Contra Celsum, llyfr I, pennod LI
- ↑ Roth, Leland M. (1993). Understanding Architecture: Its Elements, History and Meaning (arg. First). Boulder, CO: Westview Press. tt. 278, 282. Cyrchwyd 2020-03-15.
- ↑ Pearlman, Moshe (1980). Digging up the Bible. New York: William Morrow and Co. tt. 33–34. Cyrchwyd 2020-03-16.
- ↑ Roth, Leland M. (1993). Understanding Architecture: Its Elements, History and Meaning (arg. First). Boulder, CO: Westview Press. tt. 278, 282. Cyrchwyd 2020-03-15.
- ↑ Jerome Murphy-O'Connor (2008). The Holy Land: An Oxford Archaeological Guide from Earliest Times to 1700. Oxford Archaeological Guides. Oxford: Oxford University Press. tt. 229–237. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018.
- 1 2 "Anonymous of Bordeaux". Custodia terrae sanctae, Bethlehem Sanctuary. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mai 2015. Cyrchwyd 16 Mawrth 2020.
- ↑ "Bethlehem: The Roman-Byzantine period". Custodia terrae sanctae. Cyrchwyd 2020-03-15.
- ↑ Roth, Leland M. (1993). Understanding Architecture: Its Elements, History and Meaning (arg. First). Boulder, CO: Westview Press. tt. 278, 282. Cyrchwyd 2020-03-15. Roth, Leland M. (1993). Understanding Architecture: Its Elements, History and Meaning (First ed.). Boulder, CO: Westview Press. tt.278, 282. Adalwyd 15 Mawrth 2020.
- 1 2 3 Peter Gemeinhardt; Katharina Heyden, gol. (2012). Heilige, Heiliges und Heiligkeit in spätantiken Religionskulturen. Walter de Gruyter. Cyrchwyd 8 Ebrill 2018.
- ↑ Peter Gemeinhardt; Katharina Heyden, gol. (2012). Heilige, Heiliges und Heiligkeit in spätantiken Religionskulturen. Walter de Gruyter. Cyrchwyd 8 Ebrill 2018. Peter Gemeinhardt; Katharina Heyden, eds. (2012). Heilige, Heiliges und Heiligkeit in spätantiken Religionskulturen. Walter de Gruyter. Adalwyd 8 Ebrill 2018.
- ↑ Crown, Alan D.; et al. (1993). A Comparison to Samaritan Studies. t. 55.
- ↑ Shomali, Qustandi. "Church of the Nativity: History & Structure". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-11. Cyrchwyd 8 Ebrill 2018.Shomali, Qustandi. "Church of the Nativity: History & Structure" Archifwyd 2018-04-11 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 8 Ebrill 2018.
- ↑ Hoyland, Robert G.; Williamson, H. G. M. (2018). The Oxford Illustrated History of the Holy Land. Oxford Illustrated History. Oxford University Press. t. 163. Cyrchwyd 2020-03-15.
- ↑ "The Church of the Nativity, Bethlehem: Early Christian Period After 529". The Palestine Exploration Fund. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 28 Ionawr 2020. Cyrchwyd 2020-03-15.
- ↑ Runciman, Steven (1987). A History of the Crusades Vol. I: The First Crusade and the Foundations of the Kingdom of Jerusalem. Cambridge University Press. t. 10. Cyrchwyd 15 Mawrth 2020.
- ↑ Hazzard, Harry W. (1977). A History of the Crusades. vol. IV.
- ↑ Shomali, Qustandi. "Church of the Nativity: History & Structure". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Ebrill 2018. Cyrchwyd 8 Ebrill 2018. Shomali, Qustandi. "Church of the Nativity: History & Structure" Archifwyd 11 Ebrill 2018 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 8 Ebrill 2018.
- ↑ "After Centuries, Bethlehem's Church of the Nativity to Get New Roof". 27 November 2011.
- ↑ Pringle, Denys (1993). The Churches of the Crusader Kingdom of Jerusalem. vol. I.
- ↑ "The Church of the Nativity, Bethlehem: Early Christian Period After 529". The Palestine Exploration Fund. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-28. Cyrchwyd 2020-03-15.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link). The Palestine Exploration Fund. Archifwyd 28 Ionawr 2020. Adalwyd 15 Mawrth 2020.
- ↑ Greenhalgh, Michael (2009). "4, Looted and Trophy Marble". Marble Past, Monumental Present: Building With Antiquities in the Mediaeval Mediterranean. Brill. t. 163. Cyrchwyd 16 Mawrth 2020.
- ↑ Black, Aden (1851). A Cyclopedia of Biblical Literature. vol. I.
- ↑ Dart, John (12 Hydref 1996). "Rocks of Faith". Los Angeles Times (yn Saesneg). ISSN 0458-3035. Cyrchwyd 27 Mai 2016.
- ↑ "Bethlehem's Church of the Nativity Could Be Israel's First World Heritage Site". Global Heritage Fund. 15 Mehefin 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
- ↑ "UNESCO makes Church of Nativity as endangered site". Ynetnews.com. 29 Mehefin 2012. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
- ↑ "Birthplace of Jesus: Church of the Nativity and the Pilgrimage Route, Bethlehem". UNESCO World Heritage Centre. Cyrchwyd 26 Mawrth 2013.
- ↑ "Birthplace of Jesus: Church of the Nativity and the Pilgrimage Route, Bethlehem". UNESCO. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2019. "Birthplace of Jesus: Church of the Nativity and the Pilgrimage Route, Bethlehem". UNESCO. Adalwyd 7 Gorffennaf 2019.
- ↑ "The site of the Birthplace of Jesus in Bethlehem (Palestine) removed from the List of World Heritage in Danger". UNESCO. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2019.
- 1 2 "Sci/Tech – Science & Technology: Breaking news and opinions".
- ↑ "Italians find Church of Nativity's 7th angel". Agenzia Nazionale Stampa Associata. Rome. 5 Gorffennaf 2016. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Bethlehem church mosaics sparkle again, in time for Christmas". 16 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 28 Ebrill 2021.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Hugues Vincent a Félix-Marie Abel, Bethléem. Le sanctuaire de la Nativité, Paris, 1914.
- Bellarmino Bagatti, Gli antichi edifici sacri di Betlemme yn seguito agli scavi e restauri praticati dalla Custodia di Terra Santa, Jeriwsalem, 1952.
- Michele Bacci, Yr Ogof Mystig. Hanes Eglwys y Geni ym Methlehem, Rhufain-Brno, 2017.
- Bianca e Gustav Kühnel, Eglwys y Geni ym Methlehem. Leinin y Crusader Basilica Cristnogol Cynnar, Regensburg, 2019.
- Alessandri, Claudio (gol. ), Adferiad Eglwys y Geni ym Methlehem, Boca Raton, 2020.
