Cyperus papyrus
Gwedd
| Cyperus papyrus | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
| Ddim wedi'i restru: | Comelinidau |
| Urdd: | Poales |
| Teulu: | Cyperaceae |
| Genws: | Cyperus |
| Rhywogaeth: | S. papyrus |
| Enw deuenwol | |
| Cyperus papyrus L. | |
Planhigyn blodeuol dyfrdrig yw Cyperus papyrus, sydd â'r enwau Cymraeg papurfrwynen a hesg lydan. Mae'n perthyn i'r teulu Cyperaceae. Mae'n planhigyn llysieuaidd lluosflwydd sy'n frodor o Affrica. Mae'n tyfu mewn clystyrau tal mewn dŵr bas.[1]
Mae'r planhigyn wedi cael ei ddefnyddio gan fodau dynol ers yr amseroedd cynharaf, yn enwedig yn yr Hen Aifft. Dyma ffynhonnell papyrws, un o'r mathau cyntaf o bapur a wnaed erioed. Gellir defnyddio'r ffibrau i wneud basgedi, sandalau, blancedi, meddyginiaeth ac arogldarth. Mae'r coesau'n arnofio'n hawdd, a gellir eu gwneud yn gychod. Gellir bwyta rhannau o'r planhigyn. Mae bellach yn cael ei drin yn aml gan arddwyr ledled y byd fel planhigyn addurniadol.
- Papurfrwyn yn tyfu ar lannau Afon Nîl yn Wganda
- Merch o Ddelta Nîl yn yr Aifft yn trin papyrws
- Cychod wedi'u gwneud o goesynnau papyrws ar lannau Llyn Tana, Ethiopia
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur[dolen farw] Gwefan Llên Natur
