Casineb
Gwedd
Engrafiad gan M. Engelbrecht (?), 1732 | |
| Enghraifft o: | emosiwn negyddol |
|---|---|
| Math | aversion |
| Y gwrthwyneb | cariad |
| Rhan o | termau seicoleg |
| Dynodwyr | |
| Quora | Hate |
Disgrifia'r gair casineb teimlad dwys o anhoffter. Gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau, o gasineb tuag at wrthrychau neu anifeiliaid, i gasineb o bobl eraill, grŵpiau cyfan o bobloedd, neu bobl yn gyffredinol.
Safbwyntiau athronyddol
[golygu | golygu cod]Cynigia athronwyr sawl diffiniad dylanwadol o gasineb. Ystyriai René Descartes casineb fel ymwybyddiaeth o rhywbeth gwael a'r awydd i ddianc rhagddo. Diffiniodd Baruch Spinoza casineb fel math o boen a achosir gan achos neu achosion allanol. Gwelai Aristotle casineb fel awydd nad yw amser yn gwella i ddistrywio gwrthrych. Ar y llaw arall, credai David Hume fod casineb yn deimlad na sydd yn lleihau ac nad oes modd diffinio'r teimlad o gwbl.
