Neidio i'r cynnwys

Bryn Terfel

Oddi ar Wicipedia
Bryn Terfel
GanwydBryn Terfel Jones Edit this on Wikidata
9 Tachwedd 1965 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
Label recordioDeutsche Grammophon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr opera, actor Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbas-bariton Edit this on Wikidata
PriodHannah Stone Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, The Queen's Medal for Music, honorary doctor of the Royal College of Music, Marchog Faglor, Echo Klassik – Male Singer of the Year, Classic Brit Awards, Österreichischer Kammersänger, doethuriaeth er anrhydedd Edit this on Wikidata
Eisteddfod Môn 1992

Mae Syr Bryn Terfel (ganwyd 9 Tachwedd 1965) yn fariton ac yn ganwr opera byd-enwog. Fe'i ganwyd ym Mhant Glas, Gwynedd. Bu'n canu a chystadlu mewn eisteddfodau ers pan oedd yn ifanc iawn. Fe'i cysylltwyd ef yn fuan iawn yn ei yrfa gyda gwaith Mozart, yn enwedig Figaro a Leporello, ond ehangwyd ei repertwâr i gynnwys gwaith trymach o lawer megis gwaith Wagner.

Graddiodd o'r Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn 1989, ac enillodd Wobr Lieder yng Nghystadleuaeth Canwr y Byd, Caerdydd yn 1989.

Ers hynny mae wedi canu prif rannau ym mhrif dai opera'r byd gyda chlod uchel. Bryn Terfel yw sefydlydd Gŵyl y Faenol, a gynhelir bob mis Awst ar Stâd y Faenol, ger Bangor.

Roedd hefyd yn un o'r Jonesiaid a dorrodd record y byd Jones Jones Jones am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw yn Stadiwm y Mileniwm yn 2006, gan fod yn un o 1,224 Jones a gymerodd rhan.[1][2][3]

Cafodd Syr Bryn ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd Brenhines y Deyrnas Unedig ar 31 Rhagfyr 2016.[4]

Cyd gyflwynodd Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel gydag Urdd Gobaith Cymru rhwng 1999 a 2022. Daeth y Wobr i ben yn 2024. Yn 2025, cyhoeddodd yr Urdd ynghyd â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru chwech gwobr newydd sbon i gystadleuwyr sy'n serennu ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Gwobr Bryn Terfel oedd y gwobr lleisiol.[5][6]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Terfel yn briod a'i gariad o'i blentyndod, Lesley, yn 1987 ond gwahanodd y ddau yn 2013 gan ysgaru yn ddiweddarach. Mae ganddynt tri o fechgyn.[7]

Cychwynnodd berthynas gyda'r delynores Hannah Stone yn 2014. Mae hi'n gyn-delynores swyddogol i Dywysog Siarl. Dyweddïodd y cwpl yn 2016 ac yn Mai 2017 ganwyd merch iddynt.[8] Priododd y cwpl ar 26 Gorffennaf 2019 nghapel y Bedyddwyr, Caersalem Newydd yn Abertawe, tref enedigol Stone.

Repertwâr operatig

[golygu | golygu cod]

Dyma'r gwaith a'r cymeriadau mae Bryn wedi eu perfformio ar lwyfan[9]

CyfansoddwrOperaCymeriadDyddiadauRecordiwyd
BrittenPeter GrimesBalstrode1995Naddo
DonizettiL'elisir d'amoreDulcamara2001Naddo
GounodFaustMephistopheles2004Naddo
MozartCosì fan tutteGuglielmo1991Naddo
MozartDon GiovanniMasetto1992Do
MozartDon GiovanniLeporello1991Do
MozartDon GiovanniDon Giovanni1999 –Do
MozartDie ZauberflöteSpeaker1991Naddo
MozartLe nozze di FigaroFigaro1991 – 2007Do
OffenbachLes contes d'HoffmannFour male roles2000Naddo
PucciniGianni SchicchiGianni Schicchi2007Naddo
PucciniToscaScarpia2006Naddo
PucciniMadama ButterflySharpless1996Naddo
Richard StraussDie Frau ohne SchattenDer Geisterbote1992Do
Richard StraussSalomeJochanaan1993Do
SondheimSweeney ToddSweeney Todd2002 –Naddo
StravinskyThe Rake's ProgressNick Shadow1996 – 2000Do
StravinskyOedipus RexCreon1992Do
VerdiFalstaffFalstaff1999 –Do
VerdiFalstaffFord1993Naddo
WagnerDas RheingoldDonner1993Naddo
WagnerDas RheingoldWotan2005 –Naddo
WagnerDie WalküreWotan2005 –Naddo
WagnerTannhäuserWolfram1998Naddo
WagnerDer fliegende HolländerHolländer2006 –Naddo

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Something Wonderful (1996)
  • We'll Keep a Welcome (2000)
  • Some Enchanted Evening (2001)
  • Bryn (2003)
  • Simple Gifts (2005)
  • Tutto Mozart (2006)
  • First Love: Songs from the British Isles (2008)
  • Carols and Christmas Songs (2010)
  • Homeward Bound (gyda Chôr Tabernacl y Mormoniaid; Mormon Tabernacle Choir) (2013)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 'Darlledu Sioe’r Jonesiaid a Dorrodd Record Byd' 26 Tachwedd 2006 S4C
  2. "1,224 o Jonesiaid yn torri record byd!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-01. Cyrchwyd 2007-11-07.
  3. Meet the Joneses for world record BBC 19 Gorffennaf 2006
  4. Golwg360
  5. "Chwech o sêr y dyfodol i dderbyn gwobrau". Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 29 Ionawr 2025. Cyrchwyd 25 Mai 2025.
  6. "Urdd Gobaith Cymru / Gwobrau'r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru". www.urdd.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2025-07-18. Cyrchwyd 25 Mai 2025.
  7. Terfel yn datgelu effaith ei yrfa ar ei deulu , Golwg360, 12 Awst 2013. Cyrchwyd ar 27 Gorffennaf 2019.
  8. Merch fach – Lili Alaw – i Bryn Terfel a Hannah Stone , Golwg360, 5 Mai 2017. Cyrchwyd ar 27 Gorffennaf 2019.
  9. (Saesneg) Archifwyd 2018-11-30 yn y Peiriant Wayback "Bryn Terfel Opera Repertoire" gan y cyhoedwr "Harlequin Agency Limited", 2008-06-18