Anzio
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Prifddinas | Anzio |
| Poblogaeth | 58,949 |
| Gefeilldref/i | |
| Nawddsant | Anthony of Padua |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Eidaleg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Talaith Rhufain |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 43.65 km² |
| Uwch y môr | 3 ±1 metr |
| Yn ffinio gyda | Aprilia, Ardea, Nettuno |
| Cyfesurynnau | 41.44722°N 12.62833°E |
| Cod post | 00042 |
![]() | |
Tref arfordirol a chymuned (comune) yn rhanbarth Lazio, yr Eidal, yw Anzio. Fe'i lleolir yn nhalaith Dinas Fetropolitan Rhufain. Saif tua 51 km (32 milltir) i'r de o ddinas Rhufain. Mae'n adnabyddus am ei harbwr glan môr. Mae'n borthladd pysgota ac yn lanfa ar gyfer fferïau i Ynysoedd Ponza.
Mae gan y dref arwyddocâd hanesyddol mawr fel safle glaniad milwrol yn 1944 gan y Cynghreiriaid yn ystod Ymgyrch Eidalaidd yr Ail Ryfel Byd. Parhaodd Brwydr Anzio a ddilynodd o 22 Ionawr hyd 5 Mehefin 1944.
