Ali Khamenei
| Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
| Ali Khamenei | |
|---|---|
| Ganwyd | 19 Ebrill 1939 Mashhad |
| Bu farw | 28 Chwefror 2026 o cyrch awyr Tehran |
| Man preswyl | Swyddfa Goruchaf Arweinydd Iran |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfreithydd mewn Islam, gwleidydd, cyfieithydd, ysgrifennwr, bardd, clerig |
| Swydd | Prif Arweinydd Aran, Aelod o'r Cynulliad Ymgynghorol Islamaidd, Arlywydd Gweriniaeth Islamaidd Iran, Cadlywydd Lluoedd Arfog Iran, Chairman of the Expediency Discernment Council, Aelod o Gynulliad yr Arbenigwyr, Imam Gweddi Dydd Gwener, Tehran |
| Adnabyddus am | An Outline of Islamic Thought in the Quran, Four main books of Biographical-Evaluation, Q20417048, Q54858059, A 250 Years Old Person |
| Plaid Wleidyddol | Cymdeithas y Clerigwyr Ymladdgar, Plaid Weriniaethol Islamaidd |
| Mudiad | destruction of Israel in Iranian policy |
| Tad | Javad Khamenei |
| Mam | Khadija Mirdamadi |
| Priod | Mansoureh Khojaste Bagherzadeh |
| Plant | Mojtaba Khamenei, Mostafa Khamenei, Masoud Khamenei, Meysam Khamenei, Boshra Khamenei, Hoda Khamenei |
| Perthnasau | Ali Tehrani, Farideh Moradkhani, Zahra Mohammadi Golpayegani |
| Llinach | Khamenei family |
| Gwefan | https://khamenei.ir |
| llofnod | |
![]() | |
Roedd Ali Hosseini Khamenei (19 Ebrill 1939 – 28 Chwefror 2026) yn glerigwr a gwleidydd o Iran. Daeth Khamenei yn arweinydd goruchaf Iran yn 1989 yn dilyn marwolaeth yr Ayatollah Khomeini.[1] Gwasanaethodd hyd at ei lofruddiaeth yn 2026.[2] Bu'n arweinydd am gyfnod o 36 mlynedd a chwe mis, ac ef felly oedd yr arweinydd a fu mewn grym hiraf yn y Dwyrain Canol ar adeg ei farwolaeth.
Llofruddiwyd Khameini, yn 86 oed, pan fomiwyd ei wlad yn ystod Rhyfel Israel a'r Unol Daleithiau yn erbyn Iran ar 28 Chwefror 2026.[3] Daeth dros gant o arweinyddion cenhedloedd y byd i'w angladd a gynhaliwyd dros gyfnod o wythnos yng Ngorffennaf 2026; roedd dros 10 miliwn yn bresennol ar yr ail ddiwrnod, y nifer mwyaf mewn unrhyw angladd a fu erioed.[4]
Fel arweinydd goruchaf Iran, roedd o blaid defnyddio ymbelydredd at ddibenion sifil, er enghraifft i gynhyrchu trydan a radiotherapi, er gwaethaf sancsiynau rhyngwladol. Yr un pryd, cyhoeddodd ffatwa yn gwahardd cynhyrchu arfau torfol fel bomiau niwclear.[5] Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth fod gan Iran gynllun i ddatblygu bomiau o'r fath.
Roedd Khamenei o blaid preifateiddio rhai diwydiannau sy'n eiddo i'r wladwriaeth.[6] Cododd gronfeydd olew a nwy Iran yn llwyddiannus a thrawsnewidiodd y wlad yn uwch-bŵer ynni. Canolbwyntiai ei bolisi tramor ar negyddu effaith yr Unol Daleithiau ac Israel ar ei bobl, trwy gefnogi grwpiau a oedd yn eu herbyn.[7][8] Chwaraeodd Khamenei ran ganolog yn natblygiad yr IRGC (tebyg i'r MI5 yn y Deyrnas Unedig).[9]
O dan arweinyddiaeth Khamenei, cefnogai Iran "Echel y Gwrthiant" (Axis of Resistance) yn rhyfel cartref Syria, Rhyfel Irac, rhyfel cartref Yemen a rhyfel Gaza, yn ogystal â Rwsia yn ystod rhyfel Rwsia ac Wcráin.
Roedd yn gwrthwynebu Seioniaeth, cefnogai Hamas yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina ac roedd ei rethreg yn cynnwys galwadau am ddinistrio Israel. Cefnogodd Hizbollah yn Libanus a'r Houthis yn Yemen hefyd. Yn 2025 a 2026, cynyddodd casineb Israel tuag at Iran ac ymosododd ar Iran (gyda'r Unol Daleithiau) yn Rhyfel y Deuddeg Diwrnod ac yna ymosodiad yr Unol Daleithiau ac Israel ar Iran, ac yn ystod hwnnw llofruddiwyd Khamenei ar ddiwrnod cynta'r rhyfel.

Hawliau dynol
[golygu | golygu cod]Roedd llawer o feirniadaeth gan wledydd y Gorllewin ar ddiffyg hawliau dynol Iran yn ystod ei arweinyddiaeth.
Yn ystod ei fywyd, roedd Khamenei wedi datgan bod hawliau dynol yn un o egwyddorion sylfaenol dysgeidiaeth Islamaidd a bod hyn yn rhagflaenu'r pwysigrwydd a roddodd gwledydd eraill ar hawliau dynol ers canrifoedd. Nododd hefyd fod gwledydd Gogledd America ac Ewrop a feirniadodd Iran ar hawliau dynol yn rhagrithiol.[10]
Hawliau menywod
[golygu | golygu cod]Fel ei ragflaenydd Khomeini, bu iddo ddatgan y gall menywod gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol a hyrwyddodd eu cyfranogiad fel deallusion, gwyddonwyr, ymgyrchwyr, siaradwyr a chyfranwyr at fywyd cyhoeddus. Er enghraifft, erbyn 2026 roedd dros 65% o wyddonwyr Iran yn ferched.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Argyfwng Iran: Pwy oedd yr Ayatollah Ali Khamenei?". newyddion.s4c.cymru. 2026-03-01. Cyrchwyd 2026-03-01.
- ↑ "Arweinydd Iran wedi ei ladd mewn cyrch milwrol gan Israel a'r UDA". newyddion.s4c.cymru. 2026-03-01. Cyrchwyd 2026-03-01.
- ↑ "Iran's Supreme Leader Ayatollah Ali Khamenei is dead, state media says". BBC News (yn Saesneg). 2026-03-01. Cyrchwyd 2026-03-01.
- ↑ tehrantimes.com 5 Gorffennaf; adalwyd 7 Gorffennaf 2026; nidr fod arweinyddion o Tseina, Rwsia, Twrci, Sawdi Arabia, Catar, Libanus a Chiwba yn bresennol ar y diwrnod cyntaf o'r angladd.
- ↑ "An Iran option the US prefers to ignore". Asia Times. 17 Mawrth 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mawrth 2006.CS1 maint: unfit url (link)
- ↑ Daragahi, Borzou (31 Rhagfyr 2007). "Iran's inner and outer circles of influence and power". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Medi 2017. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2025.
- ↑ "Terrorist Designations of Iran-Aligned Militia Groups". United States Department of State (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-03-08.
- ↑ "Legal Aspects–Fatwa against Nuclear Weapons". nuclearenergy.ir. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Gorffennaf 2015.
- ↑ Nasr, Vali (9 Rhagfyr 2007). "Meet "The Decider" of Tehran – It's Not the Hothead You Expect". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Hydref 2008. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2007.
- ↑ "Irán – advertencia con petróleo". BBC News. 4 Mehefin 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2009. Cyrchwyd 19 Mehefin 2009.
- Materion cyfoes
- CS1 maint: unfit url
- Genedigaethau 1939
- Marwolaethau 2026
- Arlywyddion Iran
- Gwleidyddion yr 21ain ganrif o Iran
- Gwleidyddion yr 20fed ganrif o Iran
- Llenorion yr 21ain ganrif o Iran
- Llenorion yr 20fed ganrif o Iran
- Pobl Aseraidd o Iran
- Pobl a aned yn Iran
- Pobl fu farw yn Tehran
- Pobl fu farw mewn cyrchoedd awyr
